OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2016 Rhif 52 (Cy. 22) (C. 4)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) 2016
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r trydydd gorchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”).
Mae erthygl 2 yn dwyn yr adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 i rym ar 1 Mawrth 2016:
— adran 17 (gofyniad i gynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio);
— adran 18 (gofyniad i ddarparu gwasanaethau cyn ymgeisio);
— adran 19 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: ceisiadau am ganiatâd cynllunio);
— adran 20 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: cydsyniadau eilaidd);
— adran 21 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: adroddiadau effaith lleol);
— adran 22 (yr amserlen ar gyfer penderfynu ceisiadau); ac
— adran 49 (costau ceisiadau, apelau a chyfeiriadau).
Mae erthygl 3 yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2015 i rym ar 1 Mawrth 2016 i’r graddau y maent yn ymwneud â datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a chydsyniadau eilaidd:
— adran 24 (darpariaeth bellach ynghylch ceisiadau a wneir i Weinidogion Cymru);
— adran 25 (pŵer i wneud darpariaeth drwy orchymyn datblygu mewn cysylltiad â cheisiadau i Weinidogion Cymru);
— adran 26 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a cheisiadau a wneir i Weinidogion Cymru: arfer swyddogaethau gan berson penodedig);
— adran 27 (ceisiadau i Weinidogion Cymru: diwygiadau pellach);
— adran 33 (hysbysiadau penderfynu);
— adran 34 (hysbysiad am ddatblygiad);
— adran 50 (y weithdrefn ar gyfer achosion penodol);
— Atodlen 3 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a cheisiadau a wneir i Weinidogion Cymru: arfer swyddogaethau gan berson penodedig); ac
— Atodlen 4 (ceisiadau i Weinidogion Cymru: diwygiadau pellach).
Mae erthygl 4 yn dwyn adran 51 o Ddeddf 2015 (costau a’r weithdrefn wrth apelio etc: diwygiadau pellach) i rym ar 1 Mawrth 2016 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny o Atodlen 5 (costau a’r weithdrefn wrth apelio etc: diwygiadau pellach) a restrir yn yr erthygl honno.
Mae erthygl 5 yn dwyn yr adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 i rym ar 16 Mawrth 2016:
— adran 28 (pŵer awdurdod cynllunio lleol i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei rhoi gyda chais);
— adran 29 (ceisiadau annilys: hysbysu ac apelio);
— adran 30 (dirymu arbed Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau) 1988);
— adran 32 (pŵer i wrthod penderfynu ar ôl-gais);
— adran 33 (hysbysiadau penderfynu);
— adran 34 (hysbysiad am ddatblygiad);
— adran 35 (cyfnod para caniatâd cynllunio: cyffredinol);
— adran 36 (cyfnod para caniatâd cynllunio amlinellol);
— adran 37 (ymgynghori etc mewn cysylltiad â cheisiadau penodol sy’n ymwneud â chaniatâd cynllunio);
— adran 38 (cau neu wyro llwybrau cyhoeddus pan wneir cais am ganiatâd cynllunio);
— adran 43 (torri rheolaeth gynllunio: hysbysiad rhybudd gorfodi);
— adran 44 (apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi: cais tybiedig am ganiatâd cynllunio);
— adran 45 (cyfyngiadau ar hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio); ac
— adran 46 (cyfyngiadau ar hawl i apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi).
Mae erthyglau 6 i 17 yn cynnwys darpariaethau trosiannol.
NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2015 wedi eu dwyn i rym gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth |
Y dyddiad cychwyn |
Rhif O.S. |
Adran 2 |
1 Ebrill 2016 |
O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123) |
Adran 3 (i’r graddau y mae’n rhoi adrannau newydd 60, 60A a 60B yn lle adran 60 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ) |
4 Ionawr 2016 |
O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123) |
Adran 4 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) |
5 Hydref 2015 |
O.S. 2015/1736 (Cy. 237) (C. 106) |
Adrannau 11 i 14 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) |
4 Ionawr 2016 |
O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123) |
Adran 15(1) a (2) (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) |
16 Mawrth 2016 |
O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123) |
Adran 15(3) |
1 Ebrill 2016 |
O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123) |
Adran 31 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) |
4 Ionawr 2016 |
O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123) |
Adrannau 40 i 42 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) |
16 Mawrth 2016 |
O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123) |
Rhan 1 o Atodlen 1 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) |
5 Hydref 2015 |
O.S. 2015/1736 (Cy. 237) (C. 106) |
Gweler adran 58(1) o Ddeddf 2015 ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y diwrnod pan gafodd Deddf 2015 y Cydsyniad Brenhinol ac adran 58(2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i Ddeddf 2015 gael y Cydsyniad Brenhinol.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2016 Rhif 52 (Cy. 22) (C. 4)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) 2016
Gwnaed 27 Ionawr 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 58(4) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015([1]).
Enwi a dehongli
1.—(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio
(Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol)
2016.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990([2]);
ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Mawrth 2016
(a) adrannau 17 i 22; a
(b) adran 49.
3. Y diwrnod
penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2015 ddod i rym
i’r graddau y maent yn ymwneud â datblygiadau o
arwyddocâd
cenedlaethol([3]) a chydsyniadau eilaidd([4]) yw 1 Mawrth 2016—
(a) adrannau 24 i 27;
(b) adrannau 33 a 34;
(c) adran 50;
(d) Atodlen 3; ac
(e) Atodlen 4.
4. Y diwrnod penodedig i adran 51 o Ddeddf 2015 ddod i rym i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau a ganlyn o Atodlen 5 i Ddeddf 2015 yw 1 Mawrth 2016—
(a) paragraffau 1 i 14;
(b) paragraff 16(1) i’r graddau y mae’n ymwneud ag is-baragraff (2), ac is-baragraff (2);
(c) paragraff 18 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 5(4) o Atodlen 8 i Ddeddf 1990;
(d) paragraff 19 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 20, a pharagraff 21(1), (2)(a) a (b);
(e) paragraff 20;
(f) paragraff 21(1) i’r graddau y mae’n ymwneud ag is-baragraff (2)(a) a (b), ac is-baragraff (2)(a) a (b);
(g) paragraff 22;
(h) paragraff 23 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 24, 25(1), 25(2)(a) a (b), a 26;
(i) paragraff 24;
(j) paragraff 25(1), (2)(a) a (b); a
(k) paragraff 26.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 16 Mawrth 2016
(a) adrannau 28 i 30;
(b) adrannau 32 i 38; ac
(c) adrannau 43 i 46.
Darpariaethau trosiannol
6. Nid yw’r diwygiadau i Ddeddf 1990 a wneir gan adran 17 o Ddeddf 2015 yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad mawr([5]) a wneir cyn 1 Awst 2016.
7. Nid yw’r diwygiadau i Ddeddf 1990 a wneir gan adran 19 o Ddeddf 2015 yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio a wneir cyn 1 Mawrth 2016.
8. Nid yw’r diwygiad i Ddeddf 1990 a wneir gan adran 28 o Ddeddf 2015 yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio a wneir cyn 16 Mawrth 2016.
9. Nid yw’r diwygiadau i Ddeddf 1990 a wneir gan adran 29(1) a (2) o Ddeddf 2015 yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio, cydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth a wneir cyn 16 Mawrth 2016.
10. Nid yw’r diwygiadau i Ddeddf 1990 a wneir gan adran 29(1) a (3) o Ddeddf 2015 yn gymwys i apêl sy’n ymwneud â chais a wneir cyn 16 Mawrth 2016.
11. Nid yw’r diwygiad i Ddeddf 1990 a wneir gan adran 32 o Ddeddf 2015 yn gymwys pan fo, cyn 16 Mawrth 2016,—
(a) hysbysiad gorfodi wedi ei ddyroddi o dan adran 172 o Ddeddf 1990 ac nad yw wedi ei dynnu yn ôl o dan adran 173A o’r Ddeddf honno; a
(b) naill ai un neu’r ddau o’r is-baragraffau a ganlyn yn gymwys—
(i) bod apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 wedi ei gwneud yn erbyn yr hysbysiad hwnnw;
(ii) bod cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad y mae’r hysbysiad gorfodi hwnnw’n ymwneud ag ef yn cael ei wneud ar ôl y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad hwnnw a chyn 16 Mawrth 2016.
12. Nid yw’r diwygiadau i Ddeddf 1990 a wneir gan adrannau 33 a 34 o Ddeddf 2015 yn gymwys i ganiatâd cynllunio a roddir cyn 16 Mawrth 2016.
13. Nid yw’r diwygiadau i Ddeddf 1990 a wneir gan adrannau 35 a 36 o Ddeddf 2015 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 73 o Ddeddf 1990 cyn 16 Mawrth 2016.
14. Nid yw’r diwygiadau i Ddeddf 1990 a wneir gan adrannau 44 a 46 o Ddeddf 2015 yn gymwys pan fo, cyn 16 Mawrth 2016, hysbysiad gorfodi yn cael ei ddyroddi o dan adran 172 o Ddeddf 1990 ac nad yw’n cael ei dynnu yn ôl o dan adran 173A o’r Ddeddf honno.
16. Nid yw’r diwygiad i Ddeddf 1990 a wneir gan adran 49 o Ddeddf 2015 yn gymwys i gais neu apêl a wneir i Weinidogion Cymru, neu gyfeiriad a wneir atynt, cyn 1 Mawrth 2016.
17.—(1)(1) Nid yw’r diwygiadau a wneir gan y paragraffau hynny o
Atodlen 5 i Ddeddf 2015 a restrir yn erthygl 4 yn gymwys i achosion
a gychwynnir cyn 1 Mawrth 2016.
(2) At ddibenion paragraff (1) ystyr “a gychwynnir” (“instituted”) yw—
(a) mewn perthynas ag adran 121 o Ddeddf Priffyrdd 1980, bod y cwestiwn o ba un a yw atal cydsyniad yn afresymol neu ba un a yw unrhyw ddarpariaeth yn rhesymol yn dod yn benderfyniad i Weinidogion Cymru;
(b) mewn perthynas ag adran 28F o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, bod apêl yn cyrraedd Gweinidogion Cymru;
(c) mewn perthynas ag adran 28L o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, y gwneir apêl o dan adran 28L(1);
(d) mewn perthynas ag Atodlen 15 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, y cyflwynir gorchymyn i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau o dan baragraff 7 o’r Atodlen honno;
(e) mewn perthynas ag adran 175 o Ddeddf 1990, y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig am apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990;
(f) mewn perthynas ag adran 196 o Ddeddf 1990, y cyflwynir hysbysiad am apêl o dan adran 195 o Ddeddf 1990;
(g) mewn perthynas ag adran 208 o Ddeddf 1990, y rhoddir neu yr anfonir hysbysiad ysgrifenedig am apêl;
(h) mewn perthynas ag adran 320 o Ddeddf 1990, y perir i ymchwiliad lleol gael ei gynnal;
(i) mewn perthynas ag achos y mae adran 322 o Ddeddf 1990 yn gymwys iddo neu a fyddai’n gymwys iddo ond am baragraff 13 o Atodlen 5 i Ddeddf 2015, y gwneir y cais neu’r cyfeiriad neu y rhoddir yr hysbysiad am apêl;
(j) mewn perthynas ag achos y mae adran 322A o Ddeddf 1990 yn gymwys iddo neu a fyddai’n gymwys iddo ond am baragraff 14 o Atodlen 5 i Ddeddf 2015, ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau i wrandawiad neu ymchwiliad gael ei gynnal neu wneud trefniadau ar gyfer gwrandawiad neu ymchwiliad yn unol ag adran 319B o Ddeddf 1990;
(k) mewn perthynas ag apêl o dan Ddeddf 1990 y mae Atodlen 6 i’r Ddeddf honno’n gymwys iddi, bod person penodedig yn penderfynu cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad lleol neu y cyfarwyddir ef gan Weinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad lleol;
(l) mewn perthynas ag Atodlen 8 i Ddeddf 1990, y gwneir cyfeiriad at y Comisiwn Ymchwiliad Cynllunio gan Weinidogion Cymru;
(m) mewn perthynas ag adran 41 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, y rhoddir hysbysiad am apêl o dan adran 39 o’r Ddeddf honno;
(n) mewn perthynas ag apêl o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 y mae Atodlen 3 i’r Ddeddf honno’n gymwys iddi, bod person penodedig yn penderfynu cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad lleol neu y cyfarwyddir ef gan Weinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad lleol;
(o) mewn perthynas ag adran 25 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990, y gwneir apêl o dan yr adran honno; a
(p) mewn perthynas ag apêl o dan Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 y mae’r Atodlen i’r Ddeddf honno’n gymwys iddi, bod person penodedig yn penderfynu cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad lleol neu y cyfarwyddir ef gan Weinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad lleol.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
27 Ionawr 2016